#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

1.       Cyflwyniad

Mae’r papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy’n berthnasol i Gymru o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys adrannau ar waith yn y Cynulliad ac yn Llywodraeth Cymru; ar lefel yr UE; ar lefel y DU; yr Alban ac Iwerddon. Mae'n ymdrin â'r cyfnod rhwng 11 a 25 Ionawr, er y cyfeirir at ddigwyddiadau diweddarach lle y mae gwybodaeth ar gael ar adeg y drafftio terfynol.

2.       Datblygiadau yng Nghymru

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yw prif bwyllgor y Cynulliad ar gyfer cydgysylltu gweithgareddau'r Pwyllgorau sy'n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad ar y goblygiadau posibl i Gymru wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dyma sesiynau mwyaf diweddar ymchwiliad y Pwyllgor:

§    16 Ionawr: Cyfarfod preifat i drafod adroddiad drafft y Pwyllgor fel rhan o'i waith ar y goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

§    23 Ionawr: Tystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf gan Gyd-bwyllgor y Gweinidogion.

Datganiad gan y Cadeirydd ar ddyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50.

Mae gwybodaeth reolaidd am waith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i’w gweld ar flog y Cynulliad: https://blogcynulliad.com/tag/ue/.

Adroddiadau eraill

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru, ynghyd ag ymchwiliad i Ddyfodol Polisïau Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yng Nghymru.

Mae ymgynghoriad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ymgynghori ar sut beth fydd hawliau dynol yng Nghymru yn dilyn Brexit.

Dadleuon yn y Cyfarfod Llawn

§    24 Ionawr: Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50

§    24 Ionawr: Datganiad gan y Prif Weinidog: “Diogelu dyfodol Cymru”: Trefniadau pontio ar gyfer symud o aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop

Llywodraeth Cymru

23 Ionawr: Cyhoeddodd y Llywodraeth a Phlaid Cymru bapur gwyn: Diogelu Dyfodol Cymru

24 Ionawr: Datganiad - Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50

12 Ionawr: Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfarfod ffermwyr ifanc i drafod dyfodol y diwydiant wedi Brexit.

Newyddion

Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn cyflwyno tystiolaeth ar gyfer ymchwiliad Brexit (NFU Cymru, 17 Ionawr)

‘Brexit caled’ a chytundeb gyda Seland Newydd yn creu’r ‘storm berffaith’ ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru (FUW, 16 Ionawr)

Ffermwyr Meirionnydd yn pwysleisio’r pwysigrwydd o fynediad masnach di-dariff i’r farchnad UE (FUW, 16 Ionawr)

Undeb Amaethwyr Cymru yn croesawu'r ffaith bod sefydliadau datganoledig wedi cael eu cydnabod yn yr araith Brexit (FUW, 17 Ionawr)

NFU Cymru yn ymateb i araith Prif Weinidog y DU (NFU Cymru, 17 Ionawr)

FUW yn croesawu papur gwyn Llywodraeth Cymru ar Brexit (FUW, 23 Ionawr)

Ein hymateb i bapur gwyn Llywodraeth Cymru (NFU Cymru, 23 Ionawr)

3.       Y diweddaraf o'r UE

Y Cyngor Ewropeaidd

18 Ionawr: Adroddiad gan y Llywydd Donald Tusk i Senedd Ewrop ynghylch cyfarfod Y Cyngor Ewropeaidd ar 15 Rhagfyr 2016

Senedd Ewrop

17 Ionawr: Antonio Tajani yn cael ei ethol yn Llywydd newydd ar Senedd Ewrop

18 Ionawr: Dadl gyda Donald Tusk, Llywydd y Cyngor, ynghylch “rhoi Ewrop yn gyntaf” yn 2017 - Brexit, perthynas yr UE ag UDA a Rwsia, mudo, cynnydd economaidd a chymdeithasol, ac amddiffyn yr undeb.

23 Ionawr: Ar ôl CETA: cytundebau masnach yr UE sydd yn yr arfaeth.

24 Ionawr: CETA: ASEau y Pwyllgor Masnach yn cefnogi'r gytundeb rhwng yr UE a Chanada.

Newyddion Ewropeaidd

Banc Buddsoddi Ewrop (EIB) cadarnhau i'r DU dderbyn £5.5 biliwn i'w fuddsoddi yn 2016(Banc Buddsoddi Ewrop)

Prif Weinidog Seland Newydd yn annog dechrau trafodaethau masnach â’r UE yn brydlon (Euractiv, 16 Ionawr)

Pennawd: Philip Hammond issues threat to EU partners” (Welt am Sonntag, 15 January)

Dinasyddion Ewrop yn gofyn wrth May: Beth ydych chi am ei gynnig o ystyried popeth yr ydych am ei gymryd? (Euractiv, 18 Ionawr)

Goldman Sachs i wneud toriadau i'w swyddfa yn Llundain ac ehangu swyddfa Frankfurt (Handelsblatt, 19 Ionawr)

4.       Datblygiadau yn y DU

Llywodraeth y DU

4 Ionawr: Syr Tim Barrow yn cael ei benodi yn Gynrychiolydd Parhaol y DU i'r UE.

10 Ionawr: Y Prif Weinidog Theresa May a Taoiseach Enda Kenny yn trafod cydweithio er mwyn datrys y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon.

11 Ionawr: 'Bydd diwydiant y celfyddydau yn rhan bwysig wrth fawrygu'r Deyrnas Unedig yn dilyn Brexit', meddai Gweinidogion.

13 Ionawr: Cynhadledd y Prif Weinidog gyda Bill English, Prif Weinidog Seland Newydd.

17 Ionawr: Amcanion trafodaethau llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr UE: Araith y Prif Weinidog.

17 Ionawr: Datganiad ar y bartneriaeth newydd â'r UE: Datganiad David Davis yn Senedd y DU.

17 Ionawr: Siaradodd y Prif Weinidog Theresa May â'r Llywydd Tusk; y Llywydd Juncker; Angela Merkel, Canghellor yr Almaen; a François Hollande, Arlywydd Ffrainc.

18 Ionawr: Cafodd y Prif Weinidog Theresa May alwad ffôn â Beata Szydło, Prif Weinidog y wlad Pwyl er mwyn trafod amcanion y DU yn y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

19 Ionawr: Davos 2017: Araith Prif Weinidog y DU yn Fforwm Economaidd y Byd.

19 Ionawr: Erthyglau gan Theresa May: 'We will create a fairer society', ac 'I want an exit that will work for all of us'.

21 Ionawr: Siaradodd y Prif Weinidog Theresa May gydag Antonio Tajani, Arlywydd Senedd Ewrop.

22 Ionawr: Galwad ffôn y Prif Weinidog gydag Ysgrifennydd Cyffredinol NATO.

22 Ionawr: Galwad ffôn y Prif Weinidog gydag Anastasiades, Arlywydd Cyprus.

24 Ionawr: Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50: datganiad.

24 Ionawr: Datganiad ar y broses o sbarduno Erthygl 50 .

27 Ionawr: Cyfarfu'r Prif Weinidog Theresa May â'r Arlywydd Donald Trump yn Washington.

Cydbwyllgor y Gweinidogion (Trafodaethau'r UE)

30 Ionawr: Cyfarfod Cydbwyllgor y Gweinidogion (Trafodaethau'r UE)

Tŷ’r Cyffredin

17 Ionawr: Yn dilyn datganiad y Prif Weinidog yn Lancaster House, arweiniodd yr Ysgrifenyddion Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd drafodaeth ynghylch partneriaeth newydd â'r UE. Yn ddiweddarach, cafwyd dadl gan yr SNP ar Adael yr UE a'r Economi Wledig.

17 Ionawr: Neuadd San Steffan - Arweiniodd Stephen Doughty AS drafodaeth ar “Effaith y DU yn gadael yr UE ar seilwaith yng Nghymru”.

18 Ionawr: Trafodaeth yn Neuadd San Steffan - Y broses i'r DU adael yr UE.

18 Ionawr: Trafodwyd Brexit yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog, ac yna cafwyd trafodaeth ar Adael yr UE: Diogelwch, Gorfodi'r Gyfraith a Chyfiawnder Troseddol.

24 Ionawr: Datganiad a dadl ynghylch dyfarniad Erthygl 50. Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol at ble y bydd y pwerau sydd gan yr UE ar hyn o bryd yn cael eu dosbarthu – San Steffan ynteu’r gwledydd datganoledig.

24 Ionawr: Cafwyd dwy drafodaeth yn Neuadd San Steffan ar effaith y DU yn gadael yr UE o ran cyllid yr UE yng Ngogledd Iwerddon, ynghyd â safonau anifeiliaid o ran eu lles mewn cysylltiad â ffermio wedi i'r DU adael yr UE.

26 Ionawr: Darlleniad cyntaf Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad i Adael)

Disgwylir i’r ail ddarlleniad gael ei gynnal rhwng 31 Ionawr a 1 Chwefror, â chyfnod y pwyllgor wythnos yn ddiweddarach.

11 Ionawr: Cynhaliodd y Pwyllgor Addysg wrandawiad cyhoeddus yng Ngholeg Penfro, Prifysgol Rhydychen ar gyfer y sesiwn dystiolaeth gyntaf o'i ymchwiliad ar effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar addysg uwch. Cynhaliwyd sesiwn dystiolaeth bellach ar 25 Ionawr.

14 Ionawr: Mae adroddiad cyntaf y Pwyllgor ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd yn galw am drefniadau masnach ar gyfer y cyfnod pontio, ynghyd â pheidio â rhoi tariffau ar fusnesau yn y DU a chynnal pleidlais seneddol ar y gytundeb derfynol.

17 Ionawr: Mae'r Pwyllgor Craffu Ewropeaidd yn trafod y cwestiwn p'un a fydd angen i ddinasyddion y DU gael eu hawdurdodi er mwyn teithio i ardal Schengen yn dilyn Brexit. Ar 18 Ionawr, clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan David Lidington AS, Arweinydd Tŷ'r Cyffredin, am Graffu Ewropeaidd a'r Llywodraeth.

18 Ionawr: Sesiwn dystiolaeth Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd ynghylch hawliau preswylio yn nhrafodaethau Brexit. Ar 25 Ionawr, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Gibraltar.

16 Ionawr: Sesiwn dystiolaeth Pwyllgor Materion Gogledd Iwerddon ar ddyfodol y ffin a rennir â Gweriniaeth Iwerddon

17 Ionawr: Clywodd y Pwyllgor Masnach Rhyngwladol dystiolaeth ar opsiynau masnach y DU y tu hwnt i 2019, gan ganolbwyntio ar ddiwydiannau allforio'r DU - yn enwedig cynhyrchu ceir ac amaeth, ynghyd â CETA.

20 Ionawr: Mae'r Pwyllgor Materion Economaidd wedi galw am dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad newydd, sef “Brexit and the Labour Market"

24 Ionawr: Sesiynau tystiolaeth Pwyllgor y Trysorlys ar Berthynas Economaidd y DU yn y dyfodol gyda'r UE.

24 Ionawr: Cynhaliodd y Pwyllgor Masnach Rhyngwladol sesiwn dystiolaeth ar strategaeth y DU o ran trafodaethau Brexit a dyfodol y sector gwasanaethu.

Y Pwyllgor Materion Tramor: Ymddiswyddiad yr Arglwydd Hill o Oareford, sef Jonathon Hill, o'r Comisiwn Ewropeaidd - trawsgrifiad.

Tŷ’r Arglwyddi

Mae Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi a'i chwe is-bwyllgor yn cynnal "cyfres gydgysylltiedig o ymholiadau ar y materion allweddol a fydd yn codi yn y trafodaethau sydd i ddod ar adael yr Undeb Ewropeaidd".

11 Ionawr: Cwestiynau ynghylch Brexit: Hawl Dinasyddion yr UE i Aros.

12 Ionawr: Cwesitynau ynghylch yr Undeb Ewropeaidd: Rhyddid Symudiad ac ar Brexit: Trefniadau Masnach.

16 Ionawr: Cwestiwn ynghylch Brexit: Y Farchnad Sengl a Hawliau Gweithwyr.

17 Ionawr: Trafodaeth ar ddatganiad y Llywodraeth, sef Partneriaeth Newydd â'r UE.

19 Ionawr: Cwestiynau ynghylch Brexit: Troseddau Casineb, a thrafodaeth ar Brexit: Y diwydiannau creadigol.

Mae Is-bwyllgor yr Amgylchedd ac Ynni'r UE wedi cyhoeddi'r dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig ar gyfer yr ymchwiliad, Brexit: Environment and Climate Change. Mae hefyd wedi cyhoeddi ymchwiliad newydd, sef Brexit: Agriculture, ac roedd y sesiwn dystiolaeth gyntaf ar 25 Ionawr.

10 Ionawr: Cafodd Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd dystiolaeth gan David Jones AS, yr Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd, a gan Alok Sharma AS, o'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, ynghylch canlyniad cyfarfod mis Rhagfyr y Cyngor Ewropeaidd.

12 Ionawr: Ymwelodd Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd â Strasbourg i gwrdd ag Aelodau Senedd Ewrop.

16 Ionawr: Cynhaliodd Is-bwyllgor Materion Allanol yr UE ac Is-bwyllgor Marchnad Fewnol yr UE ar y cyd ynghylch eu hadroddiad ar fasnach rhwng yr UE a'r DU yn dilyn Brexit yn Kings College.

16 Ionawr: Clywodd Is-bwyllgor Marchnad Fewnol yr UE ragor o dystiolaeth ar eu hymchwiliad, sef Brexit: future trade between the UK and EU in services, gan Matt Hancock AS, y Gweinidog Gwladol dros Faterion Digidol a Diwylliant, yn yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon; Yr Arglwydd Tariq Mahmood Ahmad, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Drafnidiaeth, yn yr Adran Drafnidiaeth; a Dr Jesse Norman AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, Gweinidog Diwydiant ac Ynni, yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

17 Ionawr: Clywodd Is-bwyllgor Materion Domestig yr UE dystiolaeth ynghylch cynseiliau ac opsiynau ar gyfer mudo rhwng y DU a'r UE, yn dilyn y cyfarfod ar 11 Ionawr, a hynny gan Robert Goodwill AS, y Gweinidog dros Fewnfudo yn y Swyddfa Gartref, ynghyd â'r Gwir Anrh. David Jones AS, y Gweinidog Gwladol yn yr Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

17 Ionawr: Clywodd Is-bwyllgor Cyfiawnder yr UE dystiolaeth ynghylch cydweithredu cyfiawnder sifil.

18 Ionawr: Clywodd Is-bwyllgor Materion Ariannol yr UE dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad, sef Brexit: Cyllideb yr UE, yn dilyn y sesiwn ar 11 Ionawr.

Newyddion

 Toyota yn rhybuddio ynghylch yr elfen gystadleuol yn dilyn Brexit (Japan Today, 19 Ionawr)

Achos Erthygl 50: Dyfarniad y Goruchaf Lys a datganiad i'r wasg (24 Ionawr)

5.       Yr Alban

Senedd yr Alban

10 Ionawr: Dadl ynghylch Gwarchod a Hybu Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol (yr Undeb Ewropeaidd).

17 Ionawr: Dadl ynghylch Perthynas yr Alban yn y Dyfodol gydag Ewrop.

20 Ionawr: 'Brexit: What Scotland Thinks' – astudiaeth bwysig a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Ewropeaidd Holyrood.

23 Ionawr: Trafodaethau'r Pwyllgor Ewropeaidd ym Mrwsel.

Llywodraeth yr Alban

12 Ionawr: Effaith Brexit ar Glasgow.

13 Ionawr: Risg Brexit i waith ymchwil.

19 Ionawr: Cyfarfod Cydbwyllgor y Gweinidogion ynghylch Brexit.

21 Ionawr: Croeso i ymfudwyr.

22 Ionawr: Pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet y bygythiad a ddaw yn sgil gadael Marchnad Sengl Ewrop i'r diwydiannau bwyd a ffermio.

6.       Gogledd Iwerddon

Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon

16 Ionawr: Pennwyd y cynhelir etholiadau ar 2 Mawrth.

7.       Y cysylltiadau rhwng y DU ac Iwerddon

Mae Phil Hogan, Comisiynydd (Gwyddelig) yr UE dros Amaethyddiaeth yn annog Iwerddon i gadw pellter oddi wrth y DU o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd (Irish Times, 9 Ionawr)

8.       Adroddiadau eraill a gyhoeddwyd

§    Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin

§    'Effect of the UK leaving the EU on infrastructure in Wales' (13 January)

§    'Brexit: what impact on those currently exercising free movement rights?' (19 Ionawr)

 

§    Adroddiadau eraill

§    Dominic Cummings: erthygl 'how the Brexit referendum was won'

§    'Mitigating the impact of tariffs on UK-EU trade' (Civitas)

§    'Social Integration – Interim Report into Integration of Immigrants' (Grŵp Hollbleidiol Tŷ'r Cyffredin)

§    ‘What small firms want from Brexit’ (Ffederasiwn Busnesau Bychain)